Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:
Rhif y ddeiseb: P-5-714 Teitl y ddeiseb: Cynnwys Gorsaf ar Gyfer Mynachdy a Thal-y-bont fel Rhan o Unrhyw Gynnig ar Gyfer Metro Caerdydd Testun y ddeiseb: "Yr ydym ni, sydd wedi arwyddo isod, yn galw ar Gyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru i gyflwyno cynlluniau i gynnwys gorsaf ar gyfer Mynachdy a Thal-y-bont fel rhan o unrhyw gynnig ar gyfer Metro Caerdydd." |
Cefndir
Rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig arfaethedig Llywodraeth Cymru ar gyfer y Cymoedd a Chaerdydd yw'r Metro. Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei fod yn rhaglen hirdymor sy'n cael ei ddatblygu fel y gellir ei ymestyn yn raddol. Mae Mynachdy a Thal-y-bont yng ngogledd Caerdydd. Byddai unrhyw orsafoedd rheilffordd yn cael eu hadeiladu ar Linell Merthyr sy'n cysylltu Canol Caerdydd â Merthyr Tudful trwy orsaf Heol y Frenhines a gorsaf Cathays.
Mae llyfryn metro diweddaraf Llywodraeth Cymru yn disgrifio'r prosiect:
Mae Metro’n debygol o gynnwys rhai o’r elfennau hyn, neu bob un:
— System reilffordd wedi’i thrydaneiddio;
— Hybiau trafnidiaeth integredig;
— Adnoddau Parcio a Theithio;
— Llwybrau rheilffordd ysgafn a/neu deithio bws cyflym newydd (gan gynnwys rhai ar y strydoedd);
— Integreiddio gwasanaethau gwell ar draws moddau a gweithredwyr;
— Ymyriadau byw mewn trafnidiaeth.
Mae'r llyfryn yn disgrifio Metro Cam 1, lle mae'r prosiectau wedi eu cwblhau neu'n agos at fod wedi eu cwblhau, gan gynnwys estyniad [at y rhwydwaith rheilffyrdd] i dref Glynebwy a gwella capasiti'r gwasanaeth ar y llinell honno fwy fyth, yn ogystal â gwelliannau i orsafoedd eraill ar draws y rhwydwaith.
Bydd Metro Cam 2 (2017-23) yn “canolbwyntio ar foderneiddio craidd Trenau’r Cymoedd a rhwydwaith rheilffyrdd ehangach De Cymru. Bydd y gwaith isadeiledd hwn yn cael ei integreiddio gyda’r rhaglen i gaffael masnachfraint nesaf Cymru a’r Gororau.”
Y tu hwnt i Gam 2, mae'r llyfryn yn dweud “os bydd Cam 2 yn cynnwys rhyw fath o reilffordd ysgafn, yna bydd hi’n haws ymgorffori ystod o estyniadau sy’n seiliedig ar reilffyrdd. Gallai hyn fod yn sail i raglen hirdymor o ymestyn fesul camau.”
Camau gweithredu Llywodraeth Cymru
Masnachfraint rheilffyrdd / datblygu’r Metro
Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r diwydiant rheilffyrdd i ddatblygu cynlluniau ar gyfer moderneiddio / trydaneiddio rhwydwaith Cymoedd De Cymru er mwyn cyflwyno Metro Cam 2. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y byddai'n “cynnal proses gaffael er mwyn darparu’r prosiect [moderneiddio / trydaneiddio Trenau'r Cymoedd] fel rhan o ail-osod masnachfraint Cymru a'r Gororau.” Mae'r fasnachfraint gyfredol yn dod i ben ym mis Hydref 2018. Mae'r broses hon yn cael ei harwain gan Drafnidiaeth Cymru (TfW), sef cwmni cludiant sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru.
Gofynnwyd i gwmnïau a allai fod â diddordeb yn y fasnachfraint ymuno â phartneriaid datblygu er mwyn datblygu cynigion ynghylch seilwaith ar gyfer trydaneiddio Trenau'r Cymoedd. Gan hynny, mae union gwmpas y broses o drydaneiddio Trenau'r Cymoedd, gan gynnwys a fydd yn cynnwys rheilffyrdd trwm neu reilffyrdd ysgafn / tramiau, yn aneglur ar hyn o bryd.
Nododd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith yr amserlen ar gyfer caffael y fasnachfraint / y metro mewn datganiad yn y Cyfarfod Llawn ar 12 Gorffennaf 2016. Dywedodd:
We’re going to award the operator and development partner for the franchise and Metro by the end of this year; we’ll award the infrastructure contracts in spring 2018; the new franchise starts in October 2018 with the metro designed during 2018-19; infrastructure delivery on site from 2019; and, services operational from 2023.
Gorsafoedd newydd
Mae Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i ddatblygu meini prawf asesu a chan ddefnyddio’r meini prawf hynny, rhestr wedi’i blaenoriaethu o orsafoedd newydd i’w hystyried ymhellach (mewn perthynas â sicrhau cyllid gan y diwydiant rheilffyrdd).
Fel y dangosir yn y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet at Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau sy'n ymateb i'r ddeiseb hon, nodir 26 o safleoedd posibl ar gyfer gorsafoedd newydd. Yn ne-ddwyrain Cymru mae "Parc y Rhath / Heol Wedal, Crwys Road, Gabalfa, Melin Trelái / Parc Victoria, Caerllion, Llanwern, Gorllewin Casnewydd (ar reilffordd Glynebwy), Crymlyn, Llaneirwg, Heol Casnewydd / Rover Way, Brackla, Sain Ffagan [a] Magwyr" yn cael eu rhestru ar gyfer eu hasesu.
Camau gweithredu Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Er i Bwyllgor Menter a Busnes y Pedwerydd Cynulliad ystyried tystiolaeth ar y polisi dinas-ranbarthau a’r Metro, roedd yn canolbwyntio'n bennaf ar faterion lefel uchel fel y cynnydd a wnaed, llywodraethu a strategaeth. Ni chafodd materion a oedd yn ymwneud â gorsafoedd unigol eu trafod. Nid yw'n ymddangos y bu unrhyw drafodaeth yn y Cynulliad yn gyffredinol ar y cynnig i gynnwys gorsaf ar gyfer Mynachdy a Thal-y-bont fel rhan o'r Metro.
|
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol. |